Clai neu serameg?

 

‘A vase of unbaked clay, when broken, may be remoulded, but not a baked one.’

Leonardo da Vinci 

 

Clai wedi’i drawsnewid

Mae clai’n ddeunydd sy’n digwydd yn naturiol. Mae’n anhyblyg ac yn ludiog ac yn cynnwys gan fwyaf fwynau graen mân sydd i’w cael yn y ddaear. Mae clai â chynnwys dŵr uchel, felly mae’n anhydraidd a gellir ei fowldio’n rhwydd pan fydd yn wlyb.

Serameg yw’r enw ar ddefnyddiau anfetelaidd a ffurfir drwy ddefnyddio gwres ac sy’n aros yn galed wedi iddyn nhw gael eu gwresogi. Pan wresogir clai i dymheredd uchel mewn odyn, daw’n serameg.

Gellir gwresogi, neu ffwrndanio gwahanol gleiau hyd dymheredd gwahanol, yn dibynnu ar eu tynged a’u cynhwysiad dŵr. Mae tymheredd ffwrndanio cyfartalog oddeutu 1100ºC, bydd yn cymryd sawl awr i’r odyn gyrraedd ei dymheredd. Bydd y dŵr yn anweddu yn ystod y tanio a hynny’n peri i gorff y clai grebachu.

 

Amrywiaeth clai

Mae clai i’w gael mewn ystod o liwiau, o wyn i lwyd, o frown i oren dwfn. Mae’r amrywiant hwn yn ddibynnol ar gynnwys mwynau’r ddaear. Mae clai teracota, er enghraifft, yn cynnwys cyfran uwch o haearn ocsid, felly’n rhoi iddo ei arlliwiau coch cyfoethog. Mae ymddangosiad gwyn llachar porslen i’w briodoli i gynnwys uchel y mwyn caolinit.

Bydd artistiaid sy’n gweithio â chlai’n defnyddio cymysgedd o wahanol fathau o glai’n ôl y lliw, yr ansawdd a’r mandylledd sydd ei angen arnyn nhw. Gelwir y cymysgeddau hyn yn gyrff clai. Maen nhw’n gyfuniadau o gyrff clai a elwir yn gyffredinol yn llestri pridd, crochenwaith called a phorslen. Fel rheol bydd clai llestri pridd yn cael eu tanio fel rheol ar dymheredd is na chrochenwaith caled a phorslen.

 

Crefft hynafol

Serameg yw un o’r crefftau cynharaf yn hanes dynol. Mor gynnar â 24,000 CC mae’n hysbys fod ffigyrynau anifeiliaid a ffigyrynau dynol wedi eu gwneud gan ddefnyddio clai a mwynau eraill, a’u tanio mewn ffyrnau a oedd wedi eu claddu’n rhannol. Tua 10,000 CC y defnyddiwyd crochenwaith ymarferol am y tro cyntaf, fel llestri i storio ac fel teils. Byddai’r Babiloniaid yn cynhyrchu brics gan eu defnyddio i ddechrau heb eu tanio, ac yna’n defnyddio brics wedi’u tanio i adeiladu o oddeutu 2,500 CC.

Cyrhaeddodd crochenwaith Brydain â’r ffermwyr cyntaf, rhwng pum mil a chwe mil o flynyddoedd yn ôl. Rhai o’r rhain oedd y llestri crochenwaith cyntaf i’w haddurno â phatrymau wedi’u gwneud yn y clai meddal cyn y tanio.

 

Cyfrwng amrywiol

Mae serameg, mewn ffurfiau gwahanol, yn hanfodol i’n bywydau dyddiol. Mae teils, brics, llestri, offer iechydol yn enghreifftiau amlwg. Yn llai amlwg yw’r defnydd o gydrannau serameg mewn watshis, ceir neu linellau ffôn. Gellir ffurfio serameg i wasanaethu un ai ddeunydd sy’n drydanol ddargludol neu fel inswleiddwyr trydanol.

Defnyddir clai hefyd mewn llawer o brosesau diwydiannol, yn gweithredu’n aml fel hidlydd. Defnyddir llawer o gleiau, o fod yn gymharol anhydraidd, fel sêl naturiol yng nghraidd argaeau, ac mewn rheolaeth tirlenwi.

Mae clai yn annisbyddadwy. Mae’n ddeunydd rhad a naturiol sydd, ar unwaith, yn hepgoradwy ac yn werthfawr yn ei ffurfiau serameg gwahanol.

 

 

Technegau

 

Yn union fel y gellir dod o hyd i amrywiaethau mawr o glai yn ei ffurf amrwd, yn ei gymysgeddau a’i goethder, felly hefyd y gellir cymhwyso myrdd o driniaethau iddo. Gall artistiaid serameg archwilio ehangder o ddulliau a chyfuniadau o brosesau, ac fe fyddan nhw’n mireinio sgiliau sy’n benodol iawn i’w hymdrechion creadigol. Felly, mar’r amrywiaeth dulliau a’r ffordd y’u cymhwysir, y’u haddasir a’r ffordd y cânt eu harbenigo’n golygu fod y ffurfiau y gellir eu gwireddu mewn clai’n eang. Mae ychydig o’r dulliau a ddefnyddir yn ehangach yn cynnwys:

 

Taflu

Gwneir y taflu ar olwyn crochenydd. Dyma’r weithred o lunio darn o glai wrth iddo droi ar blatfform sy’n troi. Mae rheoli’r clai, boed hynny ar olwyn â llaw neu ar olwyn awtomataidd, yn gofyn am arbenigedd sylweddol. Mae llinellau taflu llorweddol yn y clai’n arwyddol o’r ffurf a lunnir â llaw. Gall trwch y clai amrywio yn y ffurf drwyddo draw wrth i artistiaid amrywio’r pwysedd y byddan nhw’n ei gymhwyso. Mae pob darn a deflir yn unigryw yn ei hanfod, er y gallai taflwr arbenigol greu ffurfiau sy’n ymddangos yn unfath drosodd a throsodd. 

 

Mowldin

Wrth fowldio gellir gwneud yr un ffurf drosodd a throsodd. Mae gwneud modelau’n hanfodol i fowldio. Gellir gwneud model o’r ffurf a ddymunir gan ddefnyddio clai neu blastr. Gellir ystyried hyn yn brototeip a pho gywiraf yw’r model, y cywiraf fydd y ffurf a fowldir. Mowldin cywasgedd yw clai’n cael ei bwyso i mewn i fowld anhyblyg, mowldin ‘hump’ ydi pan orchuddir mowld â chlai, a’r ddau’n cael eu siapio tra bod y clai’n wlyb. Mae powlenni’n ffurf y gellir ei adnabod yn hawdd ac sydd wedi’u gwneud â mowldiau ‘hump’. Defnyddir mowldin cywasgedd 3D yn aml yn bensaernïol.

 

Castin

Defnyddir castin slip mewn amgylcheddau stiwdio a chynhyrchu. Gellir ei ddefnyddio i wneud swp-gynyrchiadau o ddarnau penodol ac fe’i defnyddir, ar raddfa goeth ac ar raddfa fwy, mewn diwydiant. Clai hylif yw slip, wedi’i gymysgu’n dda ac mae’n llyfn. Caiff y slip ei dywallt i’r mowldiau hydraidd a’i adael i galedu nes ei fod o ansawdd lledr cyn cael ei dynnu i ffwrdd a’i drimio. Mae mowldiau’n hydraidd i ganiatáu i’r dŵr yn y clai anweddu. Pan fydd clai’n cael ei gastio fel hyn bydd ag ansawdd goeth a chain yn aml.

 

Addurniad

Mae yna nifer o ddulliau o addurno seramegau. Gellir patrymu’r clai pan fydd yn dal yn feddal, un ai’n llawrydd neu gan ddefnyddio offer sy’n argraffu siâp arbennig. Cynhyrchir Sgraffito drwy gymhwyso haenau o liw i glai sy’n lledr-galed ac yna crafu i mewn i’r haenau. Intaglio yw pan gaiff patrwm ei ricio i mewn i arwyneb y clai; gellir cymhwyso lliw a sychu’r gormodedd i ffwrdd gan adael dim ond y llinellau sydd wedi’u rhicio i ddal y lliw. Gellir cymhwyso darnau o glai wedi’u mowldio i roi addurniad gweadog, gelwir hynny’n ‘sprigging’. Mae llusgo slip yn ddull amlbwrpas o addurno arwyneb gan ei bod yn bosib defnyddio slips clai lliw hefyd.

 

Adeiladu â Llaw

Ceir sawl gwahanol ddull o adeiladu ffurfiau ceramig â llaw; yn aml cyfuniad o dechnegau sy’n cyfrannu at wneud pob ffurf unigol. Dyma rai o’r dulliau mwyaf cyffredin o adeiladu â llaw:

 

Adeiladu slab

Dyma ddull o wneud ffurfiau ceramig gan ddefnyddio slabiau clai. Mae adeiladu slab yn  galluogi llunio ffurfiau cerfluniol neu ymarferol a hynny o bosib ar raddfa fawr. Gall y ffurfiau fod yn onglog neu’n silindrig. Mae gorffeniad y slabiau a’r asiadau’n hollbwysig i gryfder cyffredinol y darn terfynol. 

Gellir defnyddio gwifren dorri i dafellu slabiau clai o floc. Rhaid i bob slab gael ei rolio at drwch cyson. Gall cyfeiryddion pren a rholbren gael eu defnyddio i’r diben hwn. Gall y slabiau wedyn gael eu torri i faint neu siâp manylach, weithiau drwy ddefnyddio templedi. Mae slabiau clai’n cynnig wyneb gwastad y gellir ei addurno cyn i’r ffurf gael ei hadeiladu; gellir gwasgu patrymau i’r clai gan ddefnyddio stampiau er enghraifft.

Mae’r slabiau gorffenedig ar eu hawsaf i’w huno pan fyddant mor galed â lledr. Gwneir hyn drwy ricio ymylon pob slab a defnyddio ‘slyri’ (cymysgedd o glai a dŵr) cyn eu gwasgu a dal yr ymylon wrth ei gilydd. Gall gwasgu torch o glai wedi’i rholio i’r tu mewn i’r uniad ei atgyfnerthu; dylai’r dorch gael ei llyfnu’n gyfan gwbl i’r slabiau cyfagos. Defnyddiwch offeryn i lyfnu’r tu allan i’r uniadau wrth ei gilydd hefyd, gan sicrhau nad oes craciau na chrychau. Mae gorffeniad hollol lyfn yn cyfrannu at gryfder ac uniondeb cyffredinol ffurf sydd wedi’i thanio. 

Os yw’r slabiau’n cael eu huno neu’u siapio tra bydd y clai’n feddal o hyd, mae’n bwysig cynnal y slabiau gydag un ai darnau o glai, cardbord neu bapur wedi’i rolio yn ystod y prosesau gwneud a sychu.

Bydd Justine Allison yn adeiladu â slabiau i wneud llestri main iawn. Dim ond 1-2mm o drwch sydd i’r slabiau o borslen wedi’i rolio y bydd Justine yn eu defnyddio ac felly rhaid bod yn dringar iawn wrth eu trafod.

 

Torchi

Torchi yw defnyddio rhaffau hirion neu dorchau o glai i wneud potiau. Un o brif fanteision torchi yw natur hydrin y clai. Yn aml, bydd y torchau’n cael eu rholio â llaw ond gallant hefyd gael eu hestyn yn fecanyddol. Dylent gael eu rholio i’r un trwch ar eu hyd er mwyn sicrhau cysondeb yn y darn gorffenedig. Os bydd trwch y torchau’n amrywio’n ormodol bydd yn fwy anodd eu huno’n effeithiol â thorchau cyfagos. Hefyd, ceir mwy o berygl o gracio wrth danio oherwydd bydd trwch y clai’n wahanol ar draws y ffurf gyfan ac felly bydd rhai rhannau’n sychu’n gynt na’i gilydd. Gellir rholio’r torchau wrth i’r ffurf gael ei hadeiladu; fel arfer, ni fydd y torchau i gyd yn cael eu gwneud ymlaen llaw – fel arall byddent yn dechrau sychu ac ni fyddant yn hydrin o’r herwydd.

Yn aml bydd gwaelod solet o glai’n cael ei rolio i ddechrau torchi arno. Unir pob torch drwy wasgu’r ymyl mewnol yn gadarn i’r gwaelod clai oddi tano. Yna bydd yr wyneb unedig yn cael ei lyfnu â’r bysedd neu offer. Os ydych am i’r ffurf orffenedig fod yn llyfn ar y tu allan, rhaid i’r torchau gael eu gwasgu at ei gilydd a’u llyfnu’n gyfan gwbl ar y tu allan wrth i chi adeiladu pob haenen, gan sicrhau bod y pwysedd yn gyson wrth wasgu a llyfnu’r clai. Yn aml, bydd angen i’r darn rydych yn gweithio arno gael ei lapio mewn plastig a’i adael i sychu ychydig cyn i’r dorch nesaf gael ei hychwanegu. Mae hyn yn galluogi’r darn i adeiladu cadernid cynhenid fel y gall gynnal y dorch nesaf o glai. Gall ffurfiau wedi’u torchi fod yn eithaf trwm oherwydd pwysau’r clai a ddefnyddir.

Yn aml, siâp organig fydd i ffurfiau wedi’u torchi oherwydd, oni bai’ch bod yn defnyddio mowld, mae’n anodd siapio’r torchau’n gyfesur. O beidio â gosod torchau cyfagos yn ganolog i’w gilydd, gellir effeithio ar siâp cyffredinol y ffurf. Er enghraifft, os yw’r ffurf i wyro am allan, yna gosodir pob torch gyfagos ychydig tuag at ymyl allanol yr un flaenorol. Os yw’r ffurf i wyro am fewn yna gosodir torchau cyfagos ychydig tuag at ymyl mewnol y dorch flaenorol ac felly ymlaen.

Gall ffurfiau gael eu gwneud o dorchi a’u modelu wedyn i siapio’r darn terfynol ymhellach.

 

Modelu

Defnyddir modelu i wneud ffurfiau cerfluniol neu ymarferol. Mae amrywiaeth eang o offer modelu ar gael er, yn aml, bydd artistiaid yn gwneud offer o eitemau pob dydd neu a gafwyd ar hap. Offer modelu effeithio yw dwylo hefyd wrth gwrs. 

Bydd Anna Noël yn modelu ei cherameg ffiguraidd gan ddefnyddio amrywiaeth o dechnegau sydd wedi’u profi dros flynyddoedd lawer yn y stiwdio. Mae modelu rhannau o ddarn sy’n dal pwysau, fel coesau ceffyl, yn gofyn bod y ffurf glai’n cael ei chynnal wrth iddi gael ei siapio a thra bydd yn sychu. 

Yn aml ychwanegir manylion llestri drwy fodelu, er enghraifft, gall pen blaen jwg gael ei fodelu i ymyl llestr sydd wedi’i thaflu. Neu bydd clust yn cael ei modelu a’i siapio cyn cael ei chysylltu i gwpan. Defnyddir modelu’n addurnol ac i ychwanegu swyddogaeth at ddarnau ceramig.

 

 

Prosesau

 

 

Caiff clai ei brosesu yn ei gyflwr amrwd, hydrin ac fel darn o serameg sydd wedi’i galedu â gwres. Yn dibynnu ar ba gorff o glai sy’n cael ei ddefnyddio, gellir defnyddio prosesau gwahanol i amrywio effeithiau esthetig a phriodweddau ymarferol.

 

Tanio

Gelwir y tro cyntaf y bydd darn o glai’n cael ei wresogi mewn odyn yn daniad ‘bisque’ neu fisged. Bydd hyn yn caledu’r clai ac yn ei wneud yn ffurf serameg parhaol. Bydd y tanio cyntaf yma’n aml oddeutu 1000ºC. Yna, bydd taniadau dilynol, o dymheredd is neu uwch a chyda chyfryngau amrywiol wedi’u cymhwyso, yn datblygu’r arwyneb serameg ymhellach.

Gall gwahanol odynau beri amrywiadau mewn ffurf serameg. Mae odynau trydan a nwy’n gymharol reoladwy, o ran gosodiadau tymheredd a hyd y tanio. Gydag odynau sy’n llosgi coed mae yna amrywiadau anferth mewn tymheredd, mewn lleoedd gwahanol y tu mewn i’r odyn, mewn effaith ar arwyneb y clai gan fflamau, mwg a llwch, ac mewn ymateb i elfennau eraill y gellid eu cyflwyno yn ystod y tanio, fel halen. Bydd yr amgylchiadau tanio sy’n aml yn anrhagweladwy, yn enwedig tanio â choed, â’r priodweddau mwyaf mynegiannol yn ganlyniad. Gall effeithiau ar y clai fod yn ddamweiniol ac yn rhyfeddol, neu gallant fod wedi’u trefnu ac yn amrywiol.

Un o’r dulliau mwyaf cyffrous o danio yw raku. Yn draddodiadol mae Raku yn fath o grochenwaith Siapaneaidd a ddefnyddid yn wreiddiol mewn seremonïau te. Mae raku’n cyfieithu’n fwynhad neu’n gysur. Fe symudir y ffurfiau serameg o’r odyn a hwythau’n dal yn eirias a’u gadael i oeri yn yr awyr agored. Gyda dehongliad gorllewinol o raku bydd y seramegau poeth yn cael eu rhoi mewn cynhwysydd o ddefnyddiau hylosg. Gall yr arwyneb serameg ddod yn anrhagweladwy liwiedig a chraciog.

 

Gwydroli

Yr enw Saesneg am wydroli yw vitrification sy’n dod o’r Lladin am wydr – vitreum. Gwydroli yw’r broses o doddi y mae clai’n mynd drwyddi pan fydd yn cael ei danio hyd at dymereddau uchel. Dyma’r pwynt pryd nad yw clai bellach yn fandyllog ar ôl tanio. Mae’r tymheredd pryd mae hyn yn digwydd yn amrywio gan ddibynnu ar y corff clai sy’n cael ei ddefnyddio.

Gellir ystyried gwydroli fel dŵr yn cael ei drosi o fod yn hylif i fod yn solet – gwydr. Wrth i glai gael ei danio’n boethach ac yn boethach, mae’n cyrraedd rhyw bwynt pryd, wrth oeri, mae’n ddigon trwchus a chryf i fedru dal hylifau. Dywedir mai aeddfed yw clai sydd wedi’i danio’n ddigonol ar gyfer ei bwrpas arfaethedig. Mewn corff clai sydd wedi aeddfedu’n llwyr, mae’r gofodau rhwng y gronynnau wedi’u llenwi’n gyfan gwbl â gwydr gan asio’r gronynnau wrth ei gilydd fel y bydd y corff clai’n dal dŵr. Mae’r broses yma hefyd yn gwneud i’r corff clai fod yn fwy bregus oherwydd bod llai o ofodau neu ddim gofodau rhwng gronynnau’r clai i amsugno unrhyw symudiad.

Bydd Justine Allison yn gweithio gyda chlai porslen i wneud llestri sy’n dal dŵr. Bydd Justine yn tanio ei gwaith hyd at 1400°C. Pan fydd porslen yn cael ei danio hyd at y tymheredd uchel yma, mae’n crebachu oherwydd bod yr holl ronynnau clai’n ymdoddi â’i gilydd a does dim gofodau bellach rhyngddynt. Golyga tanio porslen hyd at y tymheredd yma fod clai’n toddi go iawn. Dyma pam y gallwch weld tonnau a lympiau’n digwydd yn ochr llestri porslen Justine. Mae’r clai wedi toddi ond mae wedi’i ddal yn ei le oherwydd mae wedi’i uno â slabiau clai eraill; mae sawl slab yn ffurfio pob llestr. Unwaith i glai doddi gallith stumio a ffurfio swigod, yn enwedig os oes unrhyw aer wedi’i ddal yn y clai neu os nad yw’r uniadau rhwng pob slab wedi’u ffurfio’n gadarn.

Mae adnabod priodweddau’r clai rydych yn gweithio ag ef, a deall yr union dymereddau pryd mae clai’n toddi, yn hollol hanfodol i fedru creu ffurfiau ceramig cryf.

Gwydroli sy’n gyfrifol am natur led dryloyw llestri ceramig Justine. Mae’r porslen mor denau ac mae gronynnau’r porslen wedi toddi ac ymdoddi. Wrth ymdoddi maent wedi caledu i ffurfio gwydr.

 

Gwydriad

Mae llawer o seramegau’n ymarferol. Er mwyn bod yn gryf, yn ddwrglos, yn ymwrthol i lwydni a maluriad, bydd seramegau’n cael eu gwydro’n aml. Yn syml iawn, gwydredd yw caen o wydr sy’n cael ei ymdoddi i’r ffurf serameg. Gall gwydredd wneud arwynebau’n ddwrglos, gall eu lliwio a’u haddurno. Yn ei hanfod mae’n cynnwys tair elfen allweddol: silica, alwminiwm ocsid a thoddydd. Gallai silica drawsnewid yn wydr ei hun o’i danio ar oddeutu 1700ºC, mae hyn yn rhy uchel i odynau serameg felly fe ychwanegir toddydd i hwyluso’r trawsnewidiad ar dymheredd is. Mae alwminiwm ocsid yn gwneud y gwydredd yn fwy gludiog, gan ei atal rhag llithro i ffwrdd yn ystod y tanio.

Gellir lliwio gwydreddau, yn aml ag ocsidau, a’u gweadeddu. Gellir eu cymhwyso hefyd mewn nifer o ffyrdd, yn cynnwys tywallt, brwsio neu chwistrellu, â phob un yn rhoi gorffeniad gwahanol i’r arwyneb. Mae gwydro a gwneud gwydredd yn gemeg gymhleth, mae’n ffynhonnell llawer o arbrofi.

Mae gwydredd halen yn un broses sydd wedi aros yn debyg dros gannoedd o flynyddoedd. Cyflwynir halen i’r odyn yn ystod tymheredd uchaf y tanio. Bydd y sodiwm a’r clorin yn gwahanu. Bydd y clorin yn diflannu. Bydd y sodiwm yn glynu wrth beth bynnag sydd y tu mewn i’r odyn, gan ffurfio gweadedd gloyw, tryleu. Wrth wydro â halen ceir effeithiau amrywiol a rhyfedd yn aml. Mae’n arfer serameg bywiocaol.

 

Amrywiaeth

 

Mae ffurfiau serameg yn amrywiol, yn amlswyddogaethol, â gwerth mawr; neu, gallant fod yn ddisylw. Mae ei hirhoedledd fel cyfrwng defnyddiol a chreadigol yn destament i ba mor ddibynnol rydyn ni ar glai a seramegau. Mae yna grochenwyr, artistiaid serameg a diwydianwyr serameg o bob cwr o’r byd sy’n ymchwilio ac yn arbenigo mewn prosesau a chanlyniadau di-rif ar gyfer clai. Byddwn yn defnyddio, yn edmygu ac yn ein mynegi ein hunain drwy seramegau. Mae yna lawer o ddisgrifyddion o wahanol fathau o ffurfiau serameg felly, dyma rai cyffredin.

 

Ymarferol

Mae seramegau ymarferol wedi’u cynllunio i’w defnyddio, boed hynny mewn cyd-destunau domestig cyhoeddus neu ddiwydiannol. O fasnau ymolchi i gwpanau te, teils i inswleiddwyr, mae’r seramegau wedi’u cynllunio i fod yn ddefnyddiol, i wneud tasgau penodedig. Mae crochenwaith ymarferol yn gyfarwydd i ni yn ei raddfa gartrefol a bydd y rhan fwyaf o grochenwyr sy’n creu gwaith ymarferol yn cyflawni cryn dipyn yn fwy na llestri defnyddiol. Gan ystyried ergonomeg ei ddefnyddio, mae’r broses o ryngweithio rhwng jwg, er enghraifft, a’r person sy’n ei ddefnyddio, yn allweddol wrth ddylunio darn o waith sydd nid dim ond yn gweithio’n effeithiol ond a fydd hefyd yn bleser i’w ddefnyddio. Bydd estheteg ffurf a gorffeniad yn cyfrannu tuag at gymeriad ac unigolrwydd darn o grochenwaith ymarferol, ac maen nhw hefyd yn ddull o sgwrsio creadigol rhwng y gwneuthurwr a’r defnyddiwr. Mae gafael mewn llestr, teimlo ei bwysau, synhwyro ei ffurf, gwerthfawrogi ei weadedd, lliw neu addurniad i gyd yn elfennau a fydd yn cyfrannu i’r profiad o ddefnyddio’r darn yna o serameg.

 

Cerfluniol

Mae cerflunwaith yn dri-dimensiynol, wedi’i ddylunio fel rheol gan yr artist i chi edrych arno o wahanol onglau. Mae’n aml yn hynod weadeddol ac atgofus. Mae seramegau yn ffurf ar gelfyddyd sy’n hynafol ac yn fynegiadol. Mae’n treiddio unrhyw raniad rhwng celfyddyd gain a chrefft. Mae seramegau cerfluniol yn cwmpasu amrywiaeth eang o waith. Bydd graddfa, arddull, techneg, defnyddiau i gyd yn cael eu harchwilio er mwyn effeithiau fyrdd. Mae yna

amrywiaeth o ddulliau technegol wrth ddefnyddio clai i wneud ffurfiau cerfluniol hefyd. Bydd cerfio, torchi, adeiladu slabiau, modelu, taflu i gyd yn cael eu defnyddio gydag effeithiau gwahanol mewn cerflunio. Gall gwaith fod yn gynrychioliadol, o siapiau penodedig neu syniadau neu naratif; neu gall fod yn gwbl haniaethol. Gellir gweld cerflunwaith fel ffurf ar fraslunio tri-dimensiynol. Gallai artistiaid wneud un gwrthrych serameg di-dor. Neu gallant gyfuno cyfres o wrthrychau serameg, neu ddarnau wedi’u gwneud o gyfuniad o gyfryngau, a’u cyflwyno gyda’i gilydd fel gosodiad neu gasgliad.

 

Ffigurol

 

Daw gwaith ffigurol dan ymbarél ehangach gwaith cerfluniol. Fel arfer bydd seramegau ffigurol yn gynrychioliadol o ffurfiau y gellir eu hadnabod i fod wedi deillio o fywyd. Er y gall gwaith ffigurol fod yn gynrychioliadol yn aml, maen nhw’n cymryd bywyd go iawn yn ffynhonnell. Gall gwaith sydd wedi’i orffen hefyd gynnwys elfennau haniaethol. Yn wir, mae arddulliau gwneud mor amrywiol fel bod gwaith ffigurol yn amrywio o ddatganiadau realistig i ffurfiau sy’n eithaf canolraddol. Mae seramegau ffigurol, dros y milenia, wedi’u defnyddio i drawsnewid y ffurf ddynol ac i archwilio ystod ganolraddol o syniadau a materion sy’n berthnasol i ddynoliaeth.