‘Ychydig dros dair blynedd sydd yna ers i mi ddod ar draws gwaith Kate Haywood y tro cyntaf ac rwy’n cofio’n glir yr effaith o ddarganfod rhywbeth eithriadol. Mae ei gwaith â’r gallu hwnnw i’ch tynnu i mewn, i’ch mesmereiddio, i godi cwestiynau y byddwch yn teimlo na allwch eu hateb yn llwyr ond yn gwybod yn reddfol fod iddynt ystyr i chi. Mae ei gallu i wneud gwaith sydd ag atyniad gweledol, synhwyraidd a deallusol i gyd yr un pryd yn brin ac mae’n rhywbeth i’w goleddu. Bydd Kate yn ei herio ei hun yn gyson i fforio tir newydd ac mae’n rhaid i ni fel cynulleidfa ymdrechu i ddal i fyny. Mae’n symud y maes serameg cyfoes ymlaen yn ei ffordd unigryw ei hun, yn croesi diwylliannau materol ac yn ennyn ystyriaeth.’

Alex McErlain

Cyflwyniad gan Ceri Jones

Mae yna harddwch syml i waith Kate a hynny’n cuddio natur ddeinamig a chymhleth ei harfer. Yn symud ac yn datblygu’n gyson bydd arfer Kate yn amsugno myrdd o ddylanwadau ac atgyfeiriadau. Mae’r alcemi yn y ffordd y bydd Kate yn distyllu cymaint o hyn i ddarnau unigol o waith.

‘Rwy’n hoff o symlrwydd ffurfiau’ meddai Kate.

Y ffocws hwn ar ffurf sy’n rhoi’r ddisgyblaeth i Kate gyddwyso llawer o symbyliadau’n gerfluniau serameg unigol.

Mae Kate ag affinedd â gwrthrychau. Bydd yn eu darllen fel y byddem ni’n ei wneud â llyfr. Bydd yn cydnabod fod iddynt hanes, o bosib. Bydd yn ystyried ai naturiol neu fecanyddol yw llwybr eu creu, i ble y gallai’r gwrthrychau fod wedi teithio’n ddaearyddol neu ddwylo pwy allasai fod wedi’u dal neu eu defnyddio. Gallasai gwrthrychau o’r gorffennol fod wedi colli eu swyddogaeth wreiddiol neu efallai fod eu pwrpas wedi newid dros amser. Bydd Kate yn sylwi ar amgylchedd agos gwrthrych a hefyd yn meddwl am ei amgylchedd diwylliannol, a yw’n effeithio ar ei amgylchoedd agos neu a yw wedi ei ddadleoli efallai.

Ymateb esthetaidd i’w ffurfiau yn bennaf sy’n gyrru gwerthfawrogiad mor feirniadol o wrthrychau. Ond unwaith y bydd gwrthrych arbennig wedi ennyn chwilfrydedd Kate yna bydd yn ei ymchwilio ymhellach. Bydd pori casgliadau amgueddfeydd yn bleser arbennig i Kate: dadorchuddio straeon gwrthrychau ac adnabod y cysylltiadau rhwng gwrthrychau, pobl a lleoedd; y gorffennol a’r presennol.

Bydd profiad proffesiynol Kate fel gemydd yn ddefnyddiol iddi gyda’i harfer â serameg, ynghyd â blynyddoedd o archwilio ei chrefft mewn gwahanol stiwdios ac amgylcheddau creadigol. Mae canolbwyntio ar weithio â phorslen yn ystod ei MA Serameg wedi rhoi palet i Kate – palet y bydd yn ei ddefnyddio’n awr gyda sensitifrwydd a deheurwydd. Bydd yn taflu, yn modelu, cerfio, mowldio, llathru a thrin porslen i wneud y ffurfiau mwyaf hudolus.

Mae ei darnau â’u hiaith eu hunain. Ni chânt eu gwneud fel copïau o wrthrychau hapgael ond yn hytrach fe’u gwneir drwy wybodaeth a ddysgwyd am wrthrychau eraill. Fe hysbysir eu gwneuthuriad gan sensitifrwydd Kate i wrthrychau, i ddefnyddiau ac i synnwyr o le. Gall darn sengl o borslen ddwyn i gof ddefod sy’n ganrifoedd oed, gallai gyfeirio at degan a oedd yn annwyl ddegawdau yn ôl neu offeryn a ddefnyddid i fesur rhywbeth y tymor diwethaf.

Bydd ymgorffori defnyddiau eraill, fel brêd, ffelt neu arian yn ychwanegu at y ffordd y byddwn yn darllen cerfluniau Kate. Daw ychwanegiad ffelt â meddalwch gan glustogi neu grudio’r serameg gwerthfawr. Gall defnyddio edeifion i wneud y serameg yn wisgadwy, fel addurn neu gyfeiriad at ddefnydd seremonïol, efallai. Gall cyflwyno arian godi statws canfyddedig arteffact gan oleuo ei ffurf.

Mae Kate â diddordeb yn y ffordd y rhennir ac y dehonglir gwahanol syniadau. Mae â diddordeb yn y ffordd y bydd gwybodaeth yn cael ei dysgu a’i throsglwyddo ymlaen. Yn y corff newydd hwn o waith mae’n archwilio’r ffordd y gall gwrthrychau fynegi syniadau a’r ffordd y gall gwrthrychau gynnwys a chyfleu gwybodaeth hefyd. Mae Kate yn cyfeirio at y gwrthrychau sy’n ei hysbrydoli hi fel ‘gwrthrychau mydryddol’. Gwrthrychau yw’r rhain sydd wedi colli eu swyddogaeth wreiddiol neu sydd wedi’u hawlio i ddiben gwahanol neu sy’n ein hatgoffa, yn syml, o bethau eraill.

Bydd gwaith Kate yn cyffroi gwahanol atgofion mewn gwahanol bobl, bydd yn pryfocio sgyrsiau annisgwyl a gellir ei ddeall mewn ffyrdd amrywiol. Bydd ein hymateb personol ni iddo’n dwyn ein hanes a’n pwyntiau cyfeirio ni ein hunain. Beth bynnag fyddai’r rhain, byddwn yn haeru fod gwaith Kate, yn syml iawn, yn hardd.

Ceri Jones

 

Amserlen Deithio

Canolfan Grefft Rhuthun

Sir Ddinbych

02 Chwefror - 31 Mawrth 2019

Oriel Serameg

Aberystwyth

13 Ebrill - 9 Mehefin 2019 

Canolfan Gelfyddydau Llantarnam Grange

Cwmbran

03 Awst – 14 Medi 2019

Oriel Mission

Abertawe

21 Medi - 09 Tachwedd 2019

Arddangosfeydd

 

Canolfan Grefft Rhuthun

Oriel Mission

Canolfan Gelfyddydau Llantarnam Grange

Oriel Serameg Aberystwyth

 Kate Haywood | Olion


Ffurf ifanc sydd i’th ffurfafen,

ond eto, pe bawn i’n eu datod, 

y ffurf a’r ffurfafen,

gwelwn ynddynt olion ffordd

ddechreuodd ymhell, bell 

cyn bod lliw na llais,

pan oedd y lle yn dywyll iawn

a’r llall yn ymwahanu oddi wrth yr hyn,

fel y dydd gwyn

oddi wrth y nos.

Ac ar hyd yr hen ffordd 

cawn ffosiliau cysgodion.

Maint beth? Llond dwrn?

A phob un mor rhyfedd o gyfarwydd

â’r trac yn nghledr fy llaw.

-Mererid Hopwood, Mawrth 2020

Bywgraffiad

Mae gan Kate stiwdio yn Fireworks yng Nghaerdydd. O’r ganolfan gefnogol a chreadigol hon mae diddordebau a gweithgareddau Kate yn ymestyn yn eang iawn. A hithau’n cael ei denu gan gasgliadau amgueddfeydd, preswyliadau stiwdio a chyfleoedd datblygu amrywiol, bydd Kate yn coleddu llu o adnoddau yn ei harfer serameg.

Rhoddodd preswyliad Rhwydwaith Prosiect diweddar yn y Ganolfan Ymchwil Serameg Ryngwladol yn Nenmarc amgylchedd i Kate archwilio gweithio gyda gwahanol gyrff clai a dulliau tanio. Gyda phreswyliad dilynol yn y Ganolfan Wydr Genedlaethol yn Sunderland rhoddwyd cyfle i Kate gydweithio â’r artist gwydr poeth medrus James Maskrey.

Daw diddordeb Kate mewn cyfuno defnyddiau eraill â’i gwneud serameg â synnwyr craff o fateroliaeth i’w gwaith. Daw hyn, ynghyd ag angerdd tuag at wrthrychau llaw ac ail-ddychmygu gwrthrychau o’r gorffennol, ag estheteg ddihafal i’w harfer.

Gan weithio’n bennaf â phorslen, bydd Kate yn helaethu ei natur werthfawr drwy ei sgiliau mirain o ran taflu, modelu a cherfio. A hithau wedi graddio yng Ngholeg Celfyddydau Camberwell fe astudiodd Kate MA Serameg hefyd yng Ngholeg Celf a Dylunio Caerdydd. Flynyddoedd cyn hynny, fodd bynnag, fe raddiodd Kate yng Ngholeg Celf a Dylunio Central Saint Martin’s gyda BA mewn Dylunio Gemwaith.

Canlyniad y cyfuniad hwn o hyfforddiant, ymchwil a datblygiad parhaus yw arfer sy’n gyfoethog o atgyfeiriadau a chyfeiriadau.

Mae Kate â gwaith mewn casgliadau cyhoeddus a phreifat yn Oriel Gelf Manceinion; Canolfan Wydr Genedlaethol y DU; yr Amgueddfa Serameg Ryngwladol yn Faenza, yr Eidal; Casgliad KOCEF (‘Korea Ceramic Foundation’) a’r Amgueddfa Serameg yn Vallauris, Ffrainc. Mae ei gwobrau’n cynnwys Ysgoloriaeth Ymddiriedolaeth Gelfyddydau Fenton a Chystadleuaeth Seramegau Ryngwladol ‘Future Lights’.

Mae gwaith Kate wedi’i arddangos yn eang yn y blynyddoedd diwethaf. Mae sioeau grwp yn cynnwys arddangosfa deithiol y DU, Nexus: cyfarfodydd ar y ffin, arddangosfa deithiol ryngwladol Llunio’r Dyfodol, arddangosfa ddwyflynyddol Serameg Prydeinig FRESH, Gyeonggi International Ceramic Biennale Korea. Mae arddangosfeydd solo’n cynnwys Oriel Gelf Efrog Newydd ac Oriel Gelf Manceinion.

www.katehaywood.co.uk

Paent arddangosfa

Dosbarthwyd y paent gyda charedigrwydd Ystafell Arddangos Farrow & Ball Bryste