Pridd, Tân a Halen gan Micki Schloessingk
Mae Micki wedi bod yn gwneud potiau am flynyddoedd lawer. Mae sensitifrwydd ffurf a gwybodaeth o ddeunydd yn anhepgor yng ngwneuthuriad pob pot. Wedi’i hysbrydoli’n gynnar gan botiau teracota a phridd oren India, mae Micki â pharch dwfn tuag at y pridd dan ein traed. Gan ddeall ei briodweddau a’i gyfyngiadau, bydd Micki’n gweithio â chlai i’w drawsnewid yn botiau y gallwn eu defnyddio a’u mwynhau bob dydd. Mae dal un o bowlenni te Micki yn eich dwylo’n cysuro, mae tywallt dŵr claear o un o’i photeli’n bleser rhwydd. Bydd Micki’n gwneud gwaith sy’n gyffyrddol. Mae â phwysau cysurol iddo, mae ei ffurfiau’n naturiol ergonomig, a’i weadeddau’n hudolus.
Mae Micki, sy’n wneuthurwr blaenllaw potiau wedi’u tanio, yn un o ddyrnaid bach o grochenyddion byd-eang medrus felly sy’n gwneud potiau wedi’u tanio â choed a’u gwydro â halen. Mae ei mewnwelediad dwys i iaith clai wedi tyfu wrth iddi feithrin y cyfrwng. Ni fydd y ffurfiau sicr, y gweadeddau atgofus a’r lliwiadau cyfoethog y bydd Micki’n eu cyflawni yn ei gwaith yn digwydd drwy ddamwain. Er ei bod yn anochel fod yna elfen o’r anrhagweladwy yn y broses o danio, mae Micki â gwybodaeth sensitif o’r palet o danio â choed a gwydredd halen, un sy’n goleuo pob un o’i phenderfyniadau yn y stiwdio.
Bydd Micki’n taflu ac yn adeiladu ei photiau â llaw. Rhai o’i darnau sydd wedi’u gwneud â llaw ac sy’n fwyaf ymddangosiadol syml yw’r rhai mwyaf bwriadus, wedi’u llunio â llaw i ddwylo eraill afael ynddyn nhw. Mae odyn tân coed Micki’n endid deinamig ynddi’i hun, yn newid gyda phob taniad. Mae’r cylch deuddydd o danio’n gorfforol ymdrechgar ac yn gofyn am sylw craff drwyddo draw. Lleoliad y potiau yn yr odyn sy’n pennu llwybrau’r fflamau, yr halen a’r lludw coed, pob un yn effeithio’n ddramatig ar orffeniad y potiau.
Am yr un mlynedd ar bymtheg diwethaf mae Micki wedi parhau i ddatblygu Bridge Pottery, lle mae’n byw ac yn gweithio, ym mhentref gwledig Cheriton ar Benrhyn Gŵyr yn Ne Cymru. Mae Bridge Pottery’n cynnwys oriel, sied odynau, gofodau stiwdio, ystafell glai ac ardaloedd amlbwrpas allan yn yr awyr agored. Mae’n amgylchedd sy’n egnïol ac yn heddychlon lle bydd Micki’n croesawu crochenwyr, myfyrwyr a’r cyhoedd a fydd yn ymweld. Mae sgyrsiau creadigol a chydweithrediad yn anhepgor i arfer Micki sydd, yn ôl ei natur, yn parhau i esblygu gyda phob pot fydd yn cael ei danio.