Iaith Clai

 

 

Prosiect parhaol yw Iaith Clai sydd yn dathlu amrywiaeth ymarfer serameg cyflawnedig. Cyflwyna cyrff newydd o waith gan artistiaid cyfoes dethol gydag ymarfer stiwdio yng Nghymru.

Ymdrin pob artist â’r cyfrwng gyda gwahanol bersbectifau, profiadau a sgiliau. Mae ymarfer serameg yn ddiddiwedd yn ei bosibiliadau creadigol. Fel deunydd organig, ymateba clai yn ddeinamig i wahanol ffyrdd a thriniaeth. Yr ansawdd yma sydd yn ei wneud mor gyfareddol a heriol i weithio gyda. O fewn maes sydd yn gryf yma yng Nghymru, mae’r artistiaid yn arddangos ymarferiad unigol.

Trefnir Iaith Clai gan Oriel Mission yn Abertawe ac fe’i ddarparir mewn partneriaeth â Chanolfan Grefft Rhuthun, Canolfan Gelfyddydau Llantarnam Grange ac Oriel Serameg Aberystwyth. Ariennir y prosiect gan Gyngor Celfyddydau Cymru a’i curadu gan Ceri Jones.

Mae’r prosiect yn cynnwys arddangosfeydd unigol teithiol. Ceir deunydd dehongli, cyhoeddiadau, casgliad trin a rhaglenni cyfrannu i gydfynd â’r rhain. Trwy weithgareddau prosiect, gobeithiwn ganu clod clai ac arwyddocâd enfawr serameg yn ein bywydau. Llwyfan ymholiad a darganfyddiaeth yw Iaith Clai.

Gwahoddiad ydyw, ymddiriedwn, i fwy o bobl ymuno â’r sgwrs.