Llinellau Newidiol gan Justine Allison

 

“Tywynna’r haul drwy ffenestri llychlyd gweithdy gwledig Justine Allison yng nghanolbarth Cymru. Ond does dim yn wladaidd am y llestri porslen coeth sy’n cael eu dal yn y golau. Wedi’u hadeiladu â llaw o slabiau tenau o glai bydd yn creu ffurfiau tra-chywir – biceri, arllwyswyr a fasau awchlym wedi’u haddurno’n finimal â llinell. Weithiau llinell dywyll syml fydd hynny o gwmpas y canol er y bydd ei harwyddaddurniad yn defnyddio llinellau paralel o las, du neu wyrdd golau ar  y porslen gwyn tryleu. Mae serameg Justine Allison wedi’u gwneud  yn gelfydd, yn ddrudfawr i’w cyffwrdd ac yn hyfrydwch i’r llygad.”

Yr Athro Moira Vincentelli
Curadur Ymgynghorol Serameg, Prifysgol Aberystwyth


Adeiladu â llaw yw un o gonglfeini arfer serameg. Fe gaiff ei effeithio’n ddeinamig hefyd gan y dewis o glai, ei baratoad, yr amgylchiadau atmosfferig a llaw’r gwneuthurwr. Gall cymaint  fynd o chwith; cracio, pothellu, gwahaniad. Y gwneuthurwr  dawnus sy’n gweithio â’r ffaeleddau hyn i gynhyrchu ffurfiau  sydd â bywiogrwydd a chryfder hefyd. 
 
Bydd Justine yn barnu pwysau, teneuwch a lleithder y clai fydd  wedi’i rolio er mwyn gallu ei drin yn effeithiol ac, ar yr un pryd, yn caniatáu iddo ddod o hyd i’w ffurf ei hun. Daw adeiladu â llaw â phorslen â’i heriau ychwanegol ei hun oherwydd bydd porslen yn symud ac yn crebachu’n sylweddol wrth iddo sychu a chael ei danio  i dymheredd uchel o 1400°C. Pan fydd y porslen yn ei ffurf dawdd y bydd yn gwydreiddio. Dyma drawsffurfiad y corff clai trwchus yn serameg tryloyw sy’n rhannol fel gwydr. Yn awr bydd yn dal ac yn trosglwyddo golau ac yn rhoi i’r porslen lewych sy’n dod ag o’n fyw. 
 
Mae arfer Justine wedi ymchwilio’n drwyadl yr agweddau a’r amrywiadau hyn. Bydd symlrwydd ymddangosiadol pob darn o  waith yn rhoi camargraff o’r broses ddiwyd a chroniad profiad  ffisegol sydd wedi rhoi bodolaeth iddo. 
 
Drwy ei llestri cymhleth eu gwneuthuriad, bydd Justine yn ystyried y cydbwysedd rhwng ffurf a swyddogaeth. Bydd yn adlewyrchu llinellau sefydlog a symudol mewn tirweddau trefol a gwledig. Bydd yn archwilio ymylon sy’n diffinio ffurf ac eto’n cyfleu symudiad. Canlyniad dull gafaelgar Justine yw corff o waith sy’n huawdl ac yn ddyrchafol.

 

Cyflwyniad gan Ceri Jones

 

Mae llestri cymhleth Justine Allison yn huawdl ac yn ddyrchafol. Yn effeithiol felly oherwydd eu presenoldeb diymhongar. Caiff golau ei ddenu atyn nhw, ei ddal, a bydd yn pelydru oddi wrthyn nhw. Mae yna dawelwch i waith Justine a hynny’n adlewyrchu’r broses fyfyriol o’i wneud a gosgeiddrwydd y ffur au gorffenedig. Nid ydyn nhw’n berffaith, maen nhw’n fanwl gywir. Maen nhw â llinellau cryf a lliwiau meddal. Maen nhw’n ffur au sefydlog sy’n cy eu symudiad. Maen nhw’n llestri sy’n gwneud i ni ddal ein hanadl.

Mae llinellau o dir a strata trefol yn ffabrig ac addurniad llestri Justine. Mae’r llinellau sydd wedi’u lluniadu yn y clai yn ogystal â’r ymylon serameg yn peri symudiad ym mhob darn. Bydd y llestri’n symud wrth gael eu llunio, yn setlo wrth gael eu sychu ac yn altro eto wrth gael eu tanio. Mae iddyn nhw osgo sy’n deillio o freuder eu defnydd a chryfder ei briodweddau. Mae porslen yn gorff clai gwych iawn i’w drin a bydd Justine yn gwneud hynny â chadernid celfydd. Unwaith y bydd wedi’i danio hyd dymheredd uchel, ei wydreiddio, mae’n sefydlog ac yn gryf ac yn ymoleuol.

Mae teuluoedd o lestri â nodweddion cyfarwydd a gwahaniaethau dymunol. Maent yn eistedd yn gyfforddus mewn grwpiau, yn seinio fel parau neu’n canu fel darnau unigol. Gall yr hyn sy’n ymddangos yn bowlenni cwpan bychan mwyaf syml fod yn gwbl ddengar. Bydd Justine yn rhoi eurddalen ar arwyneb mewnol powlenni bychan dewisol a hynny’n rhoi ansawdd nefolaidd a all ddisgleirio. 

Mae ffurf, i Justine, yn hollbwysig. Bydd swyddogaeth yn symbyliad ysgogol, ond estheteg darn sy’n allweddol i’w gwneud hi. Gan gymryd llestr ymarferol, fel jwg neu lwy, fel man cychwyn, fe wneith Justine weithio ei dalennau o borslen sydd wedi’u rholio’n denau ar yr union gy ymder priodol i gipio’r ffurf. Mae’n ei ddisgri o fel arlunio â’r clai. Fel lluniad, bydd marciau’r gwneud yn aros. Llinellau, streipiau, gwaith llythrennu, llinyn cywarch, eurddalen neu baladiwm, bydd unrhyw rai o’r rhain yn cyfrannu tuag at estheteg fwriadol jygiau, potiau, powlenni a llwyau gorffenedig.

Mae Justine â’i hiaith clai ei hun. Yn cydbwyso rhwng ymarferol a cher uniol mae ei harfer serameg yn gyfoethog ac yn wreiddiol. Gyda dealltwriaeth ddwys o’i defnyddiau ac estheteg weledol wedi’i reinio, y ffur r llestri Justine. Mae’n gymaint o bleser cael y sioe solo yma gan Justine yn arddangosfa agoriadol ail gyfres Iaith Clai. Mae’n ehangu’r ddeialog a gy wynwyd drwy’r gyfres gyntaf ac yn dathlu arbenigedd hynod.

Arddangosfa yn Oriel Mission

 Amserlen Deithio

Oriel Mission

Abertawe

13 Ionawr - 04 Mawrth 2018

Canolfan Grefft Rhuthun

Sir Ddinbych

14 Ebrill– 15 Gorffennaf 2018

Canolfan Gelfyddydau Llantarnam Grange

Cwmbran

01 Rhagfyr 2018 - 19 Ionawr 2019

Oriel Serameg

Aberystwyth

02 Chwefror - 24 Mawrth 2019

 Arddangosfeydd

 

Oriel Mission

Canolfan Grefft Rhuthun

Canolfan Gelfyddydau Llantarnam Grange

Oriel Serameg Aberystwyth

 Justine Allison | Rhwng Llinellau


‘Mae gen i gyfrinach,’

meddai’r siwg wrth y seld,

‘wyddost ti beth sy’ tu mewn i mi?’

‘Fedra’ i ddim gweld,’

meddai’r seld,

‘dim ond un llygad sydd gen i,

un crau yng ngraen y pren,

ac rwyt ti, Siwg y Canol, yn rhy bell o’m llygad fach i.’

Ond pan ddaeth dydd y dwsto,

cydiodd dwy law’n ofalus yn y siwg

a’i symud ychydig.

‘Pst!’ meddai’r siwg wrth y seld.

‘Ti’n gweld fi nawr?

Edrych! Y tu mewn!’

Ac yn wir, roedd yr ongl rhwng llygad y seld a’r siwg

yn berffaith,

a chraffodd â holl nerth ei gweld.

‘Twt! Dim byd!

Rwyt ti’n gwbl wag!’

Meddai’r seld rhwng siom a gwawd.

‘Rwyt ti’n siwg fach grand ond cwbl dlawd.’

Wfftiodd y siwg y sylwadau cas,

‘Cyfrinach yw cyfrinach!’

A dechreuodd amau 

nad pawb sydd o dras

y gwybod, 

ac amau efallai

mai dim ond rhai all weld

ei bod hi’n dal yr haul

yng nghanol y seld.

-Mererid Hopwood, Mawrth 2020

Bywgraffiad 

 

Cafodd Justine ei magu yn Llundain ac fe astudiodd yno gan raddio o Goleg Celf Camberwell yn 1998. A hithau ar gwrs gradd a oedd yn seiliedig ar grefftau, roedd gwneud yn lluosol yn integrol i’w hyfforddiant. Mae hyn yn parhau yn y teuluoedd o lestri y bydd Justine yn eu gwneud yn awr, er mai’r gwahaniaethau ym mhob darn sy’n symbylu ei diddordeb creadigol.

Mae’r amgylchedd trefol hefyd wedi creu argraff barhaus arni. Pan symudodd i orllewin gwledig Cymru bedair blynedd ar ddeg yn ôl fe gataleiddiwyd newid yn arfer Justine. Gydag amser a gofod i’w gysegru i wneud yn llawn-amser, bydd llinellau a siapiau tirlun trefol yn trosi i’w ffur au a’i haddurniad.

Bu Justine yn adeiladu â llaw â phorslen ers dyddiau coleg: camp dechnegol sydd wedi dod yn ail natur iddi hi. Bydd yn gweithio mewn dalennau o borslen wedi’i rolio fel pe baen nhw’n bapur, yn sleisio ac yn uno, yn cynnal ac yn gwneud marciau.

Man cychwyn Justine yw darnau swyddogaethol. Fe gymerith ffurf llestr arbennig a’i wneud i’w hestheteg hi, gan ganolbwyntio ar ffurf uwchlaw swyddogaeth. Bydd y rhan fwyaf o’i darnau’n aros yn swyddogaethol ond perffeithrwydd ffurf a’r defnydd o linell yw’r brif aenoriaeth. Bydd ei llygad yn ymateb i estheteg lem sy’n cydnabod yn graff symudiad cyson y clai drwy gydol y broses o wneud.

Bydd Justine yn defnyddio golau fel cyfrwng. Mae teneuwch y clai’n allweddol i hynny. Gall ddal tywyn o fewn llestr neu ddinoethi arwyneb llyfn er mwyn cipio pob sibrydiad o olau wrth iddo ddisgyn.

Mae symlrwydd ymddangosiadol yr addurniad yn rhoi camargraff o’r sylw dwys i fanylion y bydd Justine yn ei roi i ansawdd ei llestri. Bydd llinellau cain wedi’u naddu’n ofalus iawn gan ddefnyddio stribedi bach iawn o dâp masgio a thanwydredd mewn lliwiau tawel yn dod â hydeimledd diymhongar i’w gwaith. Bydd eurddalen wedi’i gymhwyso i du mewn powlenni bychan yn cy eu disgleirdeb trawiadol.

O fod wedi cy wyno gwaith mewn arddangosfeydd dewisol yn yr Unol Daleithiau, Ffrainc, Iwerddon a Japan, mae Justine wedi arddangos yn orielau’r DU yn ddiweddar yn cynnwys y ‘Biscuit Factory’, Oriel Bevere, Amgueddfa Geffrey ac Amgueddfa Crochendy Nantgarw. Mae stocwyr presennol yn cynnwys y Flow Gallery, y Snug Gallery, Cambridge Contemporary Crafts a Chanolfan Grefft Rhuthun.

Mae gwaith Justine wedi’i brynu gan Gasgliad Cerameg Aberystwyth