Adrodd Straeon gan Anna Noël
Mae seramegau ffigurol Anna Noël yn cipio eiliadau o ryngweithio rhwng anifeiliaid a rhwng pobl ac anifeiliaid. Mae’r cerfluniau enigmatig hyn yn portreadu symlrwydd ymddangosiadol, ac eto maent yn ennyn chwilfrydedd sy’n nodweddiadol o arfer Anna.
Naratif sy’n ysgogi gwaith Anna Noël. Bydd pob un ohonom ni’n mwynhau stori dda, mae yna bleser i’w rannu wrth adrodd a derbyn straeon. Bydd Anna’n consurio ei straeon hi o glai. O’i phlentyndod cynnar i’r dydd heddiw mae greddfau creadigol Anna wedi’u trwytho ag adrodd straeon. Gall yr eiliadau y mae’n eu cipio yn ei ffurfiau serameg barhau’n… ‘fe fu pawb fyw’n hapus byth wedyn,’ neu fe allent i gyd ddod i ddiwedd trychinebus. Ein dewis ni yw’r naratif.
Gan weithio o’i stiwdio ar Benrhyn Gwyr yn ne Cymru, mae’r ffermdy o’r ail ganrif ar bymtheg wedi bod yn gartref teuluol a chreadigol i Anna er amser. Wrth ochr un o’r ysguboriau mae stiwdio hi’n edrych allan ar goetir.
Mae anifeiliaid wedi swyno Anna ers plentyndod ac mae eu delweddaeth yn tanio ei dychymyg. Bydd anifeiliaid mewn straeon a llên gwerin yn aml yn symboleiddio cymhlethdodau plentyndod, ac oedolaeth. Mae Anna â diddordeb yn y ffordd y gall ffurf anifail fynegi emosiwn, ysbrydolrwydd, a ffyrdd o weld y byd. Mae ei chyfaredd ag adrodd straeon a’i chanfyddiadau o naratif yn ei harwain i gynnwys testun mewn peth o’i gwaith. Bydd dyfyniadau o gerddi, posau a rhigymau wedi’u hysgythru’n aml yn ei gwaith neu wedi’u pwyso i mewn i’w gwaith gan ddefnyddio ‘lead type’.
Mae symlrwydd ffurf yn ysbrydoli Anna, fel y’i ceir mewn cerfluniau hynafol a chelfyddyd werin. Mae ei cherfluniau o anifeiliaid a phobl gydag anifeiliaid yn rhannu symlrwydd a diffiniad cryf o ffurf.
Wedi’u hadeiladu â llaw mewn crochenwaith cain, bydd Anna’n defnyddio amrywiaeth o ddulliau adeiladu ar gyfer ei darnau. Bydd gwaelodion wedi’u mowldio â phwysau’n creu amgylchedd i’r anifeiliaid a’r ffigyrau ac, yn aml, yn gefndir i’r testun. Bydd Anna’n trin slabiau o glai o’r tu mewn i ffurfio gwahanol elfennau’r anifeiliaid a’r ffigurau. Yna bydd y rhain, ac weithiau’r plinthau wedi’u mowldio, yn cael eu modelu efo’i gilydd a’u gorffen gan ddefnyddio gwydreddau crochenwaith, slipiau wedi’u brwsio ac ocsidau.
Wedi iddi raddio yn Academi Gelfyddyd Caerfaddon â gradd anrhydedd dosbarth cyntaf mewn serameg, fe aeth Anna yn ei blaen i wneud gradd Meistr mewn Serameg yn y Coleg Celf Brenhinol, a graddio yn 1991. Mae wedi gweithio’n amser llawn yn ei phractis serameg ers hynny. Fe gynrychiolir ei gwaith mewn sawl casgliad cyhoeddus yn cynnwys Casgliad Serameg Aberystwyth, Casgliad Serameg Shipley, a chasgliad y Ganolfan Glai yn Philadelphia, yr Unol Daleithiau.
Mae Adrodd Straeon, fel arddangosfa solo bwysig, yn rhoi cyfle i weld gwaith Anna yn ei diriogaeth ei hun. Mae Adrodd Straeon yn gyfle i ni archwilio ei byd creadigol, byd lle mae popeth, efallai, yn ymddangos yn bosib.